Skip to main content
(press enter)

Cymorth a chefnogaeth MARS

Meddyg

Gallwch ofyn am gyfrinair newydd yn y dudalen mewngofnodi: 

1. Cliciwch ar y wefan Wedi anghofio eich manylion? Cysylltwch a nodwch y cyfeiriad e-bost rydych chi'n ei ddefnyddio i fewngofnodi i MARS yna cliciwch ar y botwm Ailosod Cyfrinair
2. Bydd e-bost ailosod cyfrinair yn cael ei anfon i'r cyfeiriad sydd gennym ar eich cyfer ar MARS (os na allwch ei weld, gwiriwch yn eich ffolder sothach/sbam). Cliciwch y ddolen sydd wedi'i hymgorffori yn yr e-bost, neu gopiwch a'i gludo i'r bar chwilio, yna nodwch y cyfrinair newydd, gan ddilyn y canllawiau ar gyfer yr hyn sy'n dderbyniol wrth greu cyfrinair. 
3. Cliciwch ar y Save botwm ac os caiff ei dderbyn, byddwch yn gallu mewngofnodi gan ddefnyddio'r cyfrinair newydd. 

Gallwch hefyd newid eich cyfrinair trwy glicio ar 'Fy Nghyfrif' ac yna 'newid cyfrinair'.

Rhaid i'ch cyfrinair fod o leiaf 12 nod a rhaid iddo gynnwys o leiaf

  • 1 llythyr nod uchaf
  • 1 rhif
  • 1 nod arbennig h.y. (! , @,%, [, *, $, £) ac ati 
Ddiweddaru ddiwethaf 24/10/2022

Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio porwyr a systemau gweithredu cyfredol wrth ddefnyddio MARS, oherwydd mae defnyddio’r fersiynau diweddaraf yn fwy diogel ac mae’n darparu gwell cydnawsedd â nodweddion allweddol ar y safle.  Y porwyr sy’n cael eu hargymell/cefnogi yw:

Image of Google Chrome logo Image of Mozilla Firefox logo Image of Microsoft Edge logo Image of Safari logo Image of Internet Explorer logo
Google Chrome Mozilla Firefox Microsoft Edge Safari Internet Explorer 11+

 

Efallai y gallwch barhau i gael mynediad i’r safle ar fersiynau pori hŷn ond ni allwn warantu y bydd yr holl nodweddion yn gweithio’n gywir nac yn darparu diogelwch digonol.  Noder nad yw Windows 7 yn cael ei gefnogi mwyach gan Microsoft ac felly efallai na fydd rhai nodweddion yn MARS yn cael eu harddangos yn gywir.

Gallwch wirio eich porwr a’ch system weithredu i weld pa system/porwr rydych yn eu defnyddio ar hyn o bryd.  Efallai y bydd angen y wybodaeth hon arnom os byddwch yn cysylltu â ni gydag ymholiad technegol.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Mae gweithredu cyfrif yn broses awtomataidd.  Gwnewch yn siŵr bod cyfrif cyswllt eich corff dynodedig ar y CMC (Cyngor Meddygol Cyffredinol) yr un cyfrif â’r un rydych wedi’i nodi ar MARS.  Wrth gofrestru, dylai’r broses weithredu ddechrau ar unwaith.  Os byddwch yn cofrestru ac yna’n diweddaru eich corff dynodedig, gallai gymryd hyd at 24 awr i ddiweddaru.

Os ydych yn feddyg teulu, bydd yr Uned Cymorth Ailddilysu (RSU) yn cadarnhau bod eich cysylltiad CMC yn cyd-fynd â’ch Rhestr Cyflawnwyr Meddygol (MPL), ac ar ôl hynny awdurdodir eich cofrestriad.  Byddwch yn derbyn hysbysiad gan MARS ar ôl i hyn gael ei gwblhau.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Os na allwch gofio eich cyfrinair, gallwch ofyn am gyfrinair newydd gan dudalen mewngofnodi MARS a dewis y botwm ‘anghofio fy manylion’.  Yn dilyn cais, anfonir neges e-bost ailosod cyfrinair atoch i’ch cyfeiriad e-bost cofrestredig.  Yn y neges e-bost bydd dolen i greu cyfrinair newydd.

Os na allwch gofio’r cyfeiriad e-bost rydych wedi’i ddefnyddio, cysylltwch â Desg Gwasanaeth MARS.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Dylech sicrhau bod eich manylion personol a phroffesiynol yn gywir cyn ymgymryd â’ch arfarniad bob blwyddyn.  Dylech fynd i ‘Meddyg’ ac yna ‘Fy Manylion’ a gallwch ddiweddaru unrhyw fanylion ac eithrio eich rhif CMC (Cyngor Meddygol Cyffredinol).

My Details page

Os ydych wedi nodi eich rhif CMC yn anghywir, cysylltwch â Desg Gwasanaeth MARS.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Gallwch weld eich cofnod trafodion drwy glicio ar ‘Fy Nghyfrif’ yng nghornel dde uchaf eich cyfrif MARS.  Yn y cofnod trafodion fe welwch restr o’r holl weithredoedd sydd wedi’u cyflawni yn eich cyfrif.

Transaction log

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Os yw eich corff dynodedig newydd yng Nghymru, dylech ddiweddaru hyn yn eich adran ‘Fy Manylion’ i adlewyrchu eich cyflogwr newydd.  Os ydych yn symud y tu allan i Gymru, bydd eich cyfrif yn cael ei archifo.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Ar ôl i ni dderbyn hysbysiad eich bod wedi ymddeol neu wedi dechrau ar seibiant gyrfa, bydd eich cyfrif yn cael ei archifo.  Os bydd angen i chi gael mynediad iddo eto yn y dyfodol, gellir trefnu hyn ac ni fydd unrhyw beth a fydd wedi’i greu’n flaenorol yn MARS yn cael ei golli, gan gynnwys unrhyw grynodebau arfarniadau blaenorol.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Gallwn ail-weithredu eich cyfrif dros dro gyda swyddogaeth gyfyngedig.  Bydd eich cyfrif yn cael ei symud i’r ardal ‘ddal’ a bydd yna am gyfnod byr - pythefnos fel arfer.

Tra bydd eich cyfrif yn yr ardal ddal, gallwch gael mynediad i grynodebau arfarniadau blaenorol, yn ogystal â lawrlwytho unrhyw ffeiliau rydych wedi’u lanlwytho’n flaenorol.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Mae'r CMC yn disgwyl i chi gasglu, myfyrio ar a thrafod gwybodaeth ategol a gynhyrchir o'ch ymarfer cyfan yn y DU fel yr amlinellir yn ei ganllawiau. Mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch Swyddog Cyfrifol â'ch Tîm Ailddilysu cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn bwriadu ymarfer dramor, wrth ddal trwydded y DU i wneud gwaith meddygol (a hefyd hysbysu tîm arfarnu meddygon teulu yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru os ydych yn feddyg teulu). Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen we Ailddilysu Cymru â'ch GMC website.

Os bydd eich amgylchiadau cyflogaeth yn newid, dylech sicrhau bod eich manylion proffesiynol a'ch adran gweithgareddau ar MARS yn adlewyrchu eich cyflogaeth ddiweddaraf. Ewch i Doctor/Fy Manylion. 

Ddiweddaru ddiwethaf 25/08/2022

Mae eich cyfrif wedi’i leoli yn yr ‘ardal ddal’ gan eich bwrdd iechyd neu gorff dynodedig.  Os ydych yn credu mai camgymeriad yw hyn, dylech gysylltu â’ch bwrdd iechyd/Corff Dynodedig i drafod hyn.

Os ydych wedi symud i fwrdd iechyd neu gorff dynodedig newydd a’ch bod wedi diweddaru hyn ar eich cyfrif GMC Connect, cysylltwch â thîm MARS neu’r bwrdd iechyd, a fydd yn gallu symud eich cyfrif yn ôl i fod yn weithredol.  Fodd bynnag, tra bydd eich cyfrif yn cael ei ddal, gallwch barhau i fewngofnodi a gweld crynodebau arfarniadau blaenorol a gwybodaeth rydych wedi’i lanlwytho’n flaenorol ond ni allwch ddewis arfarnwr, trefnu arfarniad na chofnodi gwybodaeth bellach.

Isod mae rhestr o swyddogaethau sy’n amlinellu beth gallwch ei wneud tra bydd eich cyfrif yn yr ardal ddal.

Meddyg Gweithredol Dal
Gallaf lawrlwytho fy nghrynodebau blaenorol x x
Gallaf lawrlwytho gwybodaeth arfarniadau blaenorol x
Gallaf lawrlwytho gwybodaeth ategol flaenorol o’r ardal ffeiliau x
Gallaf ddiweddaru fy manylion person a phroffesiynol x x
Gallaf weld fy nghynnydd ailddilysu hyd yma x x
Gallaf ddewis arfarnwr x  
Gallaf drefnu cyfarfod arfarnu x  
Gallaf gofnodi gwybodaeth arfarniad x  
Gallaf gytuno neu wrthod crynodeb arfarniad x  

 

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Cysylltwch â Desg Gwasanaeth MARS a fydd yn edrych i ddiweddaru’r rhestrau ysbytai/practisau i’ch galluogi i sicrhau bod eich manylion proffesiynol yn adlewyrchu eich ymarfer presennol.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Dylech ddewis y bwrdd iechyd/corff dynodedig lle’r ydych yn gwneud y rhan fwyaf o’ch gwaith, dylai hyn hefyd adlewyrchu eich cysylltiad rhagnodedig ar eich cyfrif GMC Connect.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Dylai arfarniad blynyddol bob amser ystyried ymarfer cyfan meddyg, mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn disgrifio arfarniad ymarfer cyfan yn eu canllaw ar wybodaeth ategol.

Cwmpas ymarfer cyfan: Mae’n rhaid i chi ddatgan pob lleoliad yr ydych wedi gweithio a’r rolau rydych wedi’u cyflawni fel meddyg ers eich arfarniad diwethaf.  Mae’n rhaid i chi gasglu gwybodaeth ategol sy’n cwmpasu’r ymarfer cyfan hwn.  Mae’n bwysig eich bod yn nodi eich cwmpas ymarfer cyfan er mwyn gallu gwneud yn siŵr bod eich gwybodaeth ategol yn cwmpasu pob agwedd o’ch gwaith.  Mae’n rhaid i’ch gwybodaeth ategol gwmpasu unrhyw waith a wnewch mewn: 

A – rolau clinigol (gan gynnwys gwaith gwirfoddol) ac anghlinigol (gan gynnwys academaidd)

B – y GIG, y sector annibynnol a gwaith preifat. 

Er mwyn cyflawni’r gofynion ailddilysu, mae’r CMC yn ei gwneud yn ofynnol i bob meddyg gyflwyno gwybodaeth ategol sy’n cwmpasu pob agwedd o’u dyletswyddau proffesiynol.  Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei chyflwyno mewn arfarniad blynyddol.  Mae meddygon yn aml yn ymgymryd â rolau lluosog – naill ai mewn arbenigeddau niferus neu mewn rolau rheoli, addysg, ac yn y blaen.  Bydd pob un o’r rolau hyn yn cael eu cwmpasu gan y gofynion ail-ddilysu a bydd angen eu cynrychioli mewn trafodaeth arfarniad.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Mae yna ddau safle MARS MARS ar gyfer Meddygon Teulu a MARS ar gyfer pob arbenigedd arall.

 Dylech sicrhau eich bod yn ceisio cael mynediad i’r safle cywir, oherwydd dyma yw’r broblem fwyaf cyffredin.  Gwnewch yn siŵr eich bod wedi nodi’r enw defnyddiwr a’r cyfrinair cywir a bod eich cyfrif wedi’i weithredu (os ydych wedi cofrestru’n ddiweddar).

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Bydd angen i chi gofrestru ar y safle cywir ac yna cysylltu â Desg Gwasanaeth MARS i ddadactifadu’r cyfrif anghywir.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Chwarter Dynodedig (AQ) yw’r cyfnod lle dylech gael eich cyfarfod arfarnu bob blwyddyn.  Dylai hyn alinio â’ch dyddiad ailddilysu, cysylltwch â’ch Corff Dynodedig os hoffech drafod eich chwarter dynodedig.

Dyma restr o’r Chwarteri Dynodedig drwy’r flwyddyn:

Ion-Maw

Ebr-Meh

Gorff-Medi

Hyd-Rhag

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Ewch i Meddyg/Fy Arfarniadau a chlicio ar ‘Newid Chwarter Dynodedig’.

change AQ

Yna bydd angen i chi gwblhau’r templed a chlicio ‘Anfon’.  Bydd eich cais yn mynd yn uniongyrchol at Swyddog Ailddilysu eich Corff Dynodedig (neu’r tîm arfarnu Meddygon Teulu yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru os ydych yn feddyg teulu) a fydd yn adolygu eich cais ac yn cadw mewn cysylltiad â chi.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Ewch i ‘Meddyg’, ‘Fy Arfarniadau’ yna clicio ar y panel Dewis Arfarnwr.  O’r rhestr o Arfarnwyr sydd ar gael, gallwch ddewis hyd at 3 dewis.  Mae angen i chi nodi pa fis fyddai orau gennych yna clicio ‘Cyflwyno Newidiadau’.  Bydd y cais yn mynd at eich Arfarnwr dewis cyntaf, a dim ond os byddant yn gwrthod y cais yr hysbysir eich ail ddewis o Arfarnwr, ac yn y blaen.

Image showing the process of selecting an Appraiser on MARS

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Bydd angen i chi anfon ceisiadau at Arfarnwyr eraill.

Os byddwch yn parhau i brofi anawsterau yn dod o hyd i Arfarnwr, dylech gysylltu â’r tîm Arfarnu os ydych yn feddyg teulu a’ch bwrdd iechyd/Corff Dynodedig ar gyfer pob arbenigedd arall.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Ar ôl i Arfarnwr dderbyn eich cais, byddant yn cynnig dyddiad ar gyfer cyfarfod neu ddewis o ddyddiadau, a fydd yn ymddangos ar eich dangosfwrdd ‘Fy Arfarniadau’.  Gallwch dderbyn neu wrthod dyddiadau cyfarfodydd yma hefyd neu wrthod pob un dyddiad os nad yw’r un ohonynt yn gyfleus.

Images showing proposed meeting dates on MARS

Os ydych wedi cytuno ar ddyddiad gyda’ch Arfarnwr y tu allan i MARS, gall eich Arfarnwr gael mynediad uniongyrchol i’r calendr a bydd hyn yn ymddangos fel cyfarfod wedi’i gadarnhau ar eich dangosfwrdd.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Gallwch newid eich dewis Arfarnwr unrhyw amser nes y bydd eich Arfarnwr yn cynnig neu’n cofnodi dyddiad cyfarfod, drwy fynd i ‘Fy Arfarniadau’ yna, ‘Dewis Arfarnwr’ a chlicio ar ‘Newid Arfarnwr’.  Ar ôl hynny bydd angen i chi ddewis Arfarnwr newydd.

Reset appraiser selection

Os ydych yn dymuno newid eich dewis ar ôl trefnu dyddiad cyfarfod, bydd angen i chi drafod hyn gyda’ch Arfarnwr i ddechrau, ac ar ôl hynny gall eich bwrdd iechyd/Corff Dynodedig neu Ddesg Gwasanaeth MARS ei newid.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Ar ôl i’r Arfarnwr rydych wedi’i ddewis dderbyn eich cais, bydd eu manylion ar gael ar y panel Dewis Arfarnwr yn ‘Fy Arfarniadau’.

Appraiser information

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Bydd angen i chi drafod hyn gyda’ch Arfarnwr ac os ydynt yn cytuno, bydd angen iddynt newid y dyddiad yn MARS.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Os ydych yn feddyg teulu dylech gysylltu â’r tîm Arfarnu meddygon teulu, ar gyfer pob arbenigedd arall cysylltwch â’r tîm arfarnu ac ailddilysu yn eich bwrdd iechyd/Corff Dynodedig, a fydd yn gallu eich helpu.

Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021

Byddwch ond yn gweld yr arfarnwyr o’r bwrdd iechyd rydych wedi’i nodi yn MARS fel eich prif gyflogwr ar eich tudalen ‘Fy Manylion’.  Os byddwch yn dymuno cael eich arfarnu gan arfarnwr o fwrdd iechyd/Corff Dynodedig arall yng Nghymru, byddai angen i’ch bwrdd iechyd/corff dynodedig chi a’ch arfarnwr gytuno ar hyn.

Yn y lle cyntaf, byddai angen i chi gysylltu â Desg Gwasanaeth MARS, a fydd yn hwyluso hyn ar eich rhan.

Noder: dim ond i ddefnyddwyr ar safle MARS Meddygol y mae hyn yn berthnasol. Gall meddygon teulu ddewis Arfarnwyr y tu allan i'w hardal drwy ddefnyddio'r gwymplen ar y dudalen ‘dewis Arfarnwr.

Ddiweddaru ddiwethaf 17/05/2022

Gallwch gofnodi gwybodaeth arfarniad unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.  Dylech gofio caniatáu digon o amser i gofnodi gwybodaeth cyn i’ch cyfrif fynd i’r cyfnod cloi allan, 14 diwrnod i feddygon teulu a 7 niwrnod ar gyfer pob arbenigedd arall.  Dylech sicrhau eich bod yn cofnodi’r wybodaeth sydd ei hangen ar y Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) – GMC guidance on supporting information.

I gofnodi gwybodaeth arfarniad, ewch i ‘Gwybodaeth arfarniad’ ar y ddewislen ar y chwith, neu gallwch gael mynediad hefyd i hyn o’ch dangosfwrdd arfarniadau.  Yna gallwch ddewis ‘Ychwanegu gwybodaeth’ a chwblhau’r wybodaeth berthnasol.  Dylech hefyd sicrhau eich bod yn defnyddio’r templedi cywir, er enghraifft defnyddio ‘Gweithgarwch Gwella Ansawdd’ ar gyfer eich GGA ar gyfer ailddilysu.  Yna gall eich Arfarnwr adolygu a dilysu hyn ar gyfer yr ail-ddilysiad os yw’r elfennau perthnasol yn cyflawni’r gofyniad.  Gallwch hefyd gynnwys gwybodaeth ategol i ategu eich cofnodiad arfarniad a’ch adlewyrchiad, ac mae’r fideo isod yn dangos y broses lawn i chi.

Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021

Gallwch lanlwytho gwybodaeth mewn fformatau cyffredin amrywiol, gan gynnwys dogfennau Word, PDF, sleidiau PowerPoint ac yn y blaen.  Mae yna rai cyfyngiadau, a byddwch yn derbyn neges gwall os byddwch yn ceisio lanlwytho ffeil anghydnaws.  Er enghraifft, ni ellir lanlwytho negeseuon e-bost yn uniongyrchol i MARS – byddai angen i chi eu copïo i ddogfen Word neu PDF.  Dylech hefyd osgoi datgelu unigolion mewn unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei chofnodi.

Microsoft Word Microsoft PowerPoint logo PDF

Microsoft             Word 

Microsoft PowerPoint

PDF          document

diweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Mae gan bob defnyddiwr uchafswm o 200Mb ar gyfer storio ffeiliau yn eich cyfrif MARS.  Ni allwn gynyddu’r uchafswm hwn felly bydd angen i chi symud hen ffeiliau os ydych yn agosáu at yr uchafswm.  Ar ôl cwblhau arfarniad, nid oes gofyniad i gadw’r ffeiliau yn MARS.

I greu gofod, gallwch naill ai arbed y ffeiliau sydd wedi’u lanlwytho yn ôl i’ch cyfrifiadur neu eu dileu:

  1. Ewch i’r ‘Ardal Ffeiliau’ (sydd i’w chanfod o’r gwymplen yng nghornel dde uchaf y sgrin)
  2. Dewis y ffeil/iau i’w symud (Noder: os byddwch yn clicio ar bennawd y golofn ‘Maint’, gallwch drefnu’r ffeiliau o’r rhai mwyaf i’r rhai lleiaf, neu fel arall)
  3. Gallwch ddileu’r ffeiliau a ddewiswyd drwy glicio ar yr ‘X’ yn y golofn bellaf ar y dde yn erbyn pob cofnod
  4. Os ydych yn dymuno arbed ffeiliau yn ôl i’ch dyfais, cliciwch ar yr eicon yn y golofn ‘Enw’r Ffeil’ a fydd yn agor y ffeil a gallwch ei harbed. Ar ôl ei harbed yn ôl i’ch dyfais bydd angen i chi barhau i’w dileu o MARS, fel y disgrifiwyd uchod.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Ni allwch gofnodi unrhyw wybodaeth bellach pan fyddwch yn y cyfnod cloi allan.  Os bydd angen i chi gofnodi gwybodaeth ychwanegol sy’n bwysig i’ch arfarniad, bydd angen i chi drafod hyn gyda’ch Arfarnwr.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Os ydych yn dymuno mynd â gwybodaeth ategol gyda chi i’ch cyfarfod arfarnu, gallwch nodi hyn ar MARS.  Ar ôl i chi ddewis ‘Ychwanegu Gwybodaeth’, y categori a’r math, dylech gwblhau’r meysydd gofynnol.  Yna, yn agos at y botwm ar waelod y sgrin fe welwch ‘Ychwanegu Gwybodaeth Argraffedig’.  Dewiswch hyn a chwblhau’r bocs naid, yna dylech sicrhau eich bod yn dod â’r wybodaeth hon gyda chi i’r cyfarfod arfarnu.

Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021

Bydd eich cyfrif yn cael ei gloi 14 diwrnod cyn y cyfarfod os ydych yn feddyg teulu a 7 niwrnod cyn dyddiad eich cyfarfod arfarnu ar gyfer pob arbenigedd arall.

calendr cloi allan

 

Byddwch yn derbyn hysbysiadau rhybudd gan MARS – rydym yn argymell ychwanegu gwybodaeth arfarnu mewn da bryd cyn dechrau’r cyfnod cloi.  Bydd rhybudd yn weladwy yn eich tab ‘Fy Arfarniadau’ a phan fyddwch yn y cyfnod clo, ni allwch lanlwytho unrhyw wybodaeth bellach.

Lockout banner

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Oes.  Dylid cofnodi manylion y gŵyn a dderbyniwyd yn MARS a’i thrafod yn eich arfarniad.  I gofnodi cwyn, ewch i gwybodaeth Meddyg/Arfarniad yna clicio ar y botwm +Ychwanegu gwybodaeth.  Dewiswch Cwynion a Chanmoliaeth o’r ddewislen Categori a Chwyn o’r ddewislen Math.  Mae gwybodaeth bellach am ganmoliaeth a chwynion ar gael i’w hadolygu ar Ailddilysu Cymru.

Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021

Ewch i ‘Meddyg’, ‘Gwybodaeth Arfarniadau’ yna cliciwch yr 2il tab ‘Cyfyngiadau’.

MARS constraints page

Mae gan bob adran restr wahanol o gyfyngiadau, sy’n benodol i bob isadran.  Gallwch chwilio yn y gwymplen neu sgrolio i ganfod yr adran fwyaf priodol.  Cliciwch i’r chwith o’r pennawd teitl ac mae’n dangos yr is-benawdau a dewiswch yr opsiwn perthnasol.

Os ydych wedi ychwanegu cofnod gallwch ychwanegu sylwadau testun rhydd hefyd, drwy glicio ar y bocs chwith ar y dde.  Mae ychwanegu sylwadau yn rhoi cyfle i chi ddarparu mwy o wybodaeth a chyd-destun ynghylch y cyfyngiad dan sylw.

Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021

Yr arfarnwr sy’n bennaf gyfrifol am greu Cynllun Datblygu Personol (CDP), yn dilyn y drafodaeth arfarnu.  Fodd bynnag, os oes gennych rywbeth penodol yr hoffech ei ychwanegu gallwch wneud hynny fel eitem ‘i ymgyrraedd ato yn y CDP’.

I wneud hyn, ewch i ‘Meddyg’ a ‘Gwybodaeth Arfarniad’, yna clicio ar y tab ‘Mewnwelediadau ac Adlewyrchiadau’.  I gofnodi elfennau CDP, cliciwch ar y botymau gwyrdd ar yr ochr dde i gael mynediad i’r categori priodol.
Nid yw eitemau ‘i ymgyrraedd atynt yn y CDP’ yn cael eu cynnwys yn awtomatig i’ch ‘CDP cytûn’, fodd bynnag, mae’r arfarnwr yn gallu gwneud hyn os yw hyn wedi’i drafod a’i gytuno.  

Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021

Ewch i ‘Meddyg’, ‘Gwybodaeth Arfarnu’ a chlicio ar y tab ‘CDP Presennol’.  Yma cewch fanylion yr hyn a gytunwyd yn eich arfarniad MARS diwethaf.  Yn yr adran CDP gallwch ddewis a ydych wedi cyflawni, cyflawni’n rhannol neu ddim wedi cyflawni pob eitem yn y CDP.  Dewiswch y botwm ‘Diweddaru Statws’ gwyrdd i wneud hyn, yna o fewn y bocs naid, cwblhewch y meysydd gofynnol.

Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021

Er cywirdeb, dylech gadarnhau eich dyddiad ailddilysu drwy eich cyfrif GMC Connect.  Mae eich gwybodaeth ailddilysu ar gael hefyd yn ‘Cynnydd ailddilysu’.  Fodd bynnag, mae oedi’n bosibl neu broblemau cydamseru wrth i’r wybodaeth drosglwyddo rhwng y CMC a MARS.

Ewch i ‘Meddyg’, y tab ‘Cynnydd Ailddilysu’ ac fe welwch wybodaeth sy’n cynnwys eich dyddiad ailddilysu, nifer yr arfarniadau sydd wedi’u cwblhau a’ch cynnydd tuag at yr elfennau gwybodaeth gofynnol.

Mae gwybodaeth bellach am Ailddilysu ar gael ar wefan y CMC.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Ewch i’r tab  'Doctor', 'Cynnydd Ailddilysu a byddwch yn dod o hyd i wybodaeth sy'n cynnwys eich dyddiad ailddilysu, nifer yr arfarniadau a gwblhawyd, ac eich cynnydd tuag at y llinynnau gwybodaeth gofynnol.

Revalidation progress page

Mae rhagor o wybodaeth am Ailddilysu ar gael ar wefan y GMC.

Ddiweddaru ddiwethaf 11/10/2021 

Dylid trafod pob ymholiad ynglŷn ag ailddilysu gyda’ch bwrdd iechyd/Corff Dynodedig.

Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021

Mae’r Uned Cefnogi Ailddilysiad (RSU) yn cael mynediad at adroddiadau agregedig er mwyn darparu trosolwg cenedlaethol o heriau gwasanaethau neu weithle sy’n effeithio ar feddygon yng Nghymru.  Mae gan bob bwrdd iechyd/Corff Dynodedig fynediad i’r adroddiadau hyn ar gyfer eu hardal eu hunain er mwyn gallu eu cymharu yn erbyn y darlun cenedlaethol.  Ni chyflwynir adroddiad ar gyfyngiadau personol.  Bydd unrhyw gyfyngiadau a nodwch yn weladwy ar ôl i chi gwblhau eich arfarniad i’ch Swyddog Cyfrifol neu gynrychiolydd enwebedig.

Er bod cyfyngiadau yn cael eu cofnodi a’u cyflwyno i’w trafod mewn arfarniad gydag Arfarnwr, cyfrifoldeb y meddyg ydynt fel unigolyn.  Os codir cyfyngiad sy’n cynnwys mater diogelwch cleifion posibl, mae’n rhaid cofnodi hyn drwy’r weithdrefn adrodd gywir, fel yr amlinellir yn Duties of a Doctor – GMC guidance

Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021

Bydd angen i chi gofrestru ar safle Orbit360.  Mae gwybodaeth bellach ac adnoddau amrywiol ar gael drwy safle Cwestiynau Cyffredin Orbit360.

Mae’r fideo hwn yn rhoi trosolwg i feddygon o’r broses adborth yn Orbit360.

Gallwch lawrlwytho’r fideo gan ddefnyddio’r saeth yng nghornel dde waelod y fideo.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Ar ôl i chi dderbyn eich adroddiad adborth claf a/neu gydweithiwr gallwch lanlwytho’r adroddiad(au) o’r dudalen ‘Gwybodaeth Arfarniad’.  Dewiswch ‘Ychwanegu Gwybodaeth’ a gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio’r templedi ‘Adborth Claf’, ‘Adborth Cydweithiwr’ neu ‘Adborth Claf a Chydweithiwr’.  Er mwyn cyflawni gofynion ailddilysu, mae angen i chi sicrhau eich bod yn adlewyrchu ar eich adborth a thrafod hyn yn eich cyfarfod arfarniad.

Mae canllawiau pellach ar ychwanegu gwybodaeth arfarniad ar gael yn Sut wyf yn cofnodi gwybodaeth arfarniad?’.

Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021

Gallwch gwblhau eich adborth claf a chydweithiwr unrhyw bryd yn eich cylch ailddilysu ond dylech ganiatáu amser digonol cyn eich dyddiad dilysu nesaf.  Yn ddelfrydol, byddech yn ei gwblhau ym mlynyddoedd 2 neu 3 eich cylch Ailddilysu.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Mae cyfnod cloi allan yn caniatáu amser digonol i’r Arfarnwr adolygu’r wybodaeth rydych wedi’i chofnodi, cyn y cyfarfod arfarnu.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Ar ôl i’ch Arfarnwr gwblhau’r crynodeb o’r arfarniad, gallwch ei adolygu drwy eich cyfrif MARS.  Bydd rhybudd yn ymddangos yn adran Crynodeb Arfarniad eich dangosfwrdd ac yno gallwch dderbyn neu wrthod y crynodeb.

Appraisal Summary screen 

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Pan fydd yr Arfarnwr wedi cyflwyno eich crynodeb arfarniad gallwch ei adolygu drwy adran Crynodeb Arfarniad eich dangosfwrdd.  Bydd angen i chi glicio ar y botwm derbyn/gwrthod a dewis y dewis gwrthod.  Cewch eich cymell i nodi rheswm byr pam eich bod yn ei wrthod.  Bydd eich Arfarnwr yn adolygu’r sylwadau ac efallai y bydd yn dewis gwneud diwygiadau cyn ei ailgyflwyno i chi.  Os na allwch chi a’ch Arfarnwr gytuno ar eich crynodeb arfarniad, dylech drafod hyn gyda’ch Corff Dynodedig.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Ar ôl i chi dderbyn eich crynodeb arfarniad, gallwch baratoi ar gyfer eich arfarniad nesaf.  Bydd angen i chi gwblhau arolwg ar ôl yr arfarniad hefyd.  Ni ellir gwneud unrhyw ddiwygiadau pellach ar ôl i chi dderbyn y crynodeb felly gwnewch yn siŵr eich bod yn hapus cyn ei dderbyn drwy MARS.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Ar ôl i chi gwblhau eich arfarniad, bydd angen i chi gwblhau arolwg sy’n mynd i’r afael â phob agwedd o’r broses arfarnu.  Mae’r arolwg hwn yn orfodol a bydd yn helpu i hysbysu gwelliannau i’r broses arfarnu a MARS.

Ddiweddaru ddiwethaf 05/10/2021

Os hoffech fod yn arfarnwr, cysylltwch â thîm arfarnu meddygon teulu Uned Cefnogi Ailddilysiad (RSU) os ydych yn gweithio mewn Practis Cyffredinol.

Os ydych yn gweithio ym maes gofal eilaidd, mae arfarnwyr yn cael eu recriwtio’n lleol gan bob bwrdd iechyd/Corff Dynodedig, felly dylech gysylltu â hwy i drafod hyn.  Byddant yn ein hysbysu pan fyddwn yn gallu dyrannu rôl arfarnwr i chi ar MARS.  Ar ôl i chi gwblhau’r gofynion angenrheidiol, bydd yr RSU yn ychwanegu’r ‘rôl arfarnwr’ i’ch cyfrif MARS.

Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis

Rheoli dewisiadau