Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio porwyr a systemau gweithredu cyfredol wrth ddefnyddio MARS, oherwydd mae defnyddio’r fersiynau diweddaraf yn fwy diogel ac mae’n darparu gwell cydnawsedd â nodweddion allweddol ar y safle. Y porwyr sy’n cael eu hargymell/cefnogi yw:
Efallai y gallwch barhau i gael mynediad i’r safle ar fersiynau pori hŷn ond ni allwn warantu y bydd yr holl nodweddion yn gweithio’n gywir nac yn darparu diogelwch digonol. Noder nad yw Windows 7 yn cael ei gefnogi mwyach gan Microsoft ac felly efallai na fydd rhai nodweddion yn MARS yn cael eu harddangos yn gywir.
Gallwch wirio eich porwr a’ch system weithredu i weld pa system/porwr rydych yn eu defnyddio ar hyn o bryd. Efallai y bydd angen y wybodaeth hon arnom os byddwch yn cysylltu â ni gydag ymholiad technegol.
Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio eich cyfrif GIG ar MARS lle bynnag y bo’n bosibl, er mwyn lleihau’r risg o negeseuon e-bost yn cael eu hanfon i’ch hidlydd sothach/spam. Os ydych yn defnyddio cyfrif e-bost personol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eich hidlydd sothach/spam yn rheolaidd ac yn ychwanegu’r negeseuon e-bost i’ch rhestr ‘anfonwyr diogel’.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/1994
Mae yna rai rhesymau pam y gallai hyn ddigwydd:
- Nid oes gennych unrhyw slotiau argaeledd yn eich calendr ac nid yw eich argaeledd misol ar gael ar gyfer y misoedd sydd wedi’u cynnwys yn Chwarter Dynodedig y meddyg neu’r Chwarter Dynodedig dilynol
- Mae Chwarter Dynodedig y meddyg yn anghywir. Pan na fydd gan feddyg arfarniad yn eu ChD neu eu ChD dilynol, ni allant ddewis arfarnwr. Dylai meddygon teulu gysylltu â’u tîm Arfarnu meddygon teulu a dylai pob arbenigedd gysylltu â’u bwrdd iechyd/Corff Dynodedig i drafod hyn.
- Rydych eisoes wedi arfarnu’r meddyg hwn ddwywaith yn y 5 arfarniad diwethaf a bydd angen i’r meddyg ddewis arfarnwr arall. Os yw’r meddyg o’r farn bod ganddynt amgylchiadau esgusodol nad ydynt wedi’u cynnwys yn y polisi hwn, dylent gysylltu â’u Bwrdd Iechyd/Corff Dynodedig i drafod hyn.
Mae gwybodaeth bellach am sut i reoli eich argaeledd fel arfarnwr ar gael yn yr adran ‘rheoli argaeledd’ ar y dudalen Cwestiynau Cyffredin hon.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Eich bywgraffiad yw gwybodaeth sy’n canolbwyntio ar eich diddordebau clinigol, eich maes arbenigedd, argaeledd a’ch lleoliad. Bydd eich bywgraffiad ar gael i feddygon ei weld wrth chwilio am arfarnwr i gynnal eu harfarniad nesaf. Dylech sicrhau eich bod yn ei ddiweddaru’n rheolaidd.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Dylech fynd i’r dudalen ‘Rheoli’ a dewis ‘Ychwanegu/Golygu Bywgraffiad’ ar yr ochr dde.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Mae slotiau arfarnu yn dangos yn benodol i'r meddyg pan fyddwch ar gael i gynnal cyfarfodydd arfarnu. Gallwch fewnbynnu slotiau unigol neu fewnbynnu bloc o ddyddiau/amseroedd sydd ar gael (h.y. bob dydd Mawrth am 10:00AM).
I wneud hyn, ewch i'r dudalen 'Rheoli' ar eich cyfrif MARS a dewis 'Rheoli Argaeledd'. Rhowch y wybodaeth sydd ei hangen yn y naidlen a chliciwch 'cau' unwaith i hyn gael ei wneud. Fe welwch fod eich calendr arfarnwr wedi'i lenwi â sgwariau gwyrdd i nodi'r dyddiau neu'r amseroedd sydd ar gael.
I olygu neu i ddileu slotiau o'ch calendr, ewch i'r dudalen 'Rheoli' a dewis 'Rheoli Argaeledd'. Bydd naidlen yn ymddangos gyda'ch holl slotiau sydd ar gael ar hyn o bryd. Defnyddiwch y groes goch i ddileu slotiau dethol.
Gallwch ddefnyddio’r swyddogaeth ‘iCal’ i lawrlwytho eich calendr arfarnwr o MARS a’i ychwanegu i’ch calendr Outlook. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gydamseriad byw. Byddai’n rhaid i chi wneud hyn yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod eich calendr Outlook yn gyfredol.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Mae MARS yn galluogi i chi ddangos eich bod ar gael neu nad ydych ar gael am fisoedd cyfan. Ewch i’r dudalen ‘Rheoli’ ac ‘Argaeledd Misol’ ar yr ochr dde. Cliciwch ar y mis yr hoffech ei ddynodi eich bod ar gael neu nad ydych ar gael, mae gwyrdd yn dangos argaeledd ac mae llwyd yn dangos nad ydych ar gael. Gallwch newid y flwyddyn gan ddefnyddio’r bocs cwympo ar frig yr adran hon.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Mae meddygon yn gallu dewis arfarnwyr sydd wedi dangos eu hargaeledd yn eu Chwarter Dynodedig presennol neu’r Chwarter Dynodedig nesaf. Os ydych yn dymuno dangos nad ydych ar gael ar gyfer y chwarter cyfan, mae angen i chi sicrhau eich bod wedi dynodi hyn ym mhob mis yn y chwarter. Mae slotiau arfarnu a misoedd ar gael/ddim ar gael yn annibynnol ar ei gilydd. Os ydych wedi dynodi nad ydych ar gael am fis penodol, ond mae gennych slotiau yn eich calendr, byddwch yn parhau i ddangos eich bod ar gael.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Ar ôl i chi dderbyn cais gan feddyg, byddwch yn derbyn hysbysiad o MARS i’ch cyfeiriad e-bost cofrestredig. Rydym hefyd yn argymell gwirio MARS yn rheolaidd, ac fe welwch unrhyw geisiadau heb eu darllen ar y dudalen ‘Rheoli’ yn y bocs ‘Ceisiadau Arfarnwr’.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Ewch i’r dudalen ‘Rheoli’ ac fe welwch a oes unrhyw geisiadau heb eu darllen yn y bocs ‘Ceisiadau Arfarnwr’. Cliciwch y bocs yma a dewis y tic gwyrdd i dderbyn neu’r groes goch i wrthod. Hysbysir y meddyg drwy e-bost o’r canlyniad.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Ar ôl i chi dderbyn cais arfarnu mae angen i chi gynnig dyddiad cyfarfod neu ddyddiadau cyfarfod. I wneud hyn Cliciwch ar ‘Aros am Ddyddiadau Cyfarfod’ ar y dudalen ‘Rheoli’. Arddangosir rhestr o ddyddiadau aros am gyfarfodydd pob meddyg yma. Cliciwch ar yr eicon calendr a chwblhau’r templed gyda’r dyddiad neu ddyddiadau (gallwch ddewis hyd at 3 dyddiad arfaethedig) yna clicio anfon. Dangosir y dyddiadau arfaethedig hyn yn eich calendr arfarnu (brown) hyd nes y cytunir ar ddyddiad gyda’r meddyg. Cewch eich hysbysu drwy e-bost ar ôl i’r meddyg weithredu’r cynnig.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Efallai eich bod wedi cytuno ar ddyddiad cyfarfod gyda’r meddyg y tu allan i’r system MARS. Os ydych wedi gwneud hyn, mae angen i chi barhau i gofnodi’r dyddiad ar MARS i weld gwybodaeth am y meddyg a chreu crynodeb arfarnu. Ewch i ‘Rheoli’ a sgrolio drwy’r mis y cynhelir yr arfarniad. Cliciwch ar y dyddiad a bydd bocs naid yn ymddangos, dewiswch y meddyg o’r gwymplen ac ychwanegu amser y cyfarfod ac unrhyw wybodaeth ychwanegol a chlicio ‘Anfon’. Bydd hyn yn ymddangos ar eich calendr fel cyfarfod wedi’i gadarnhau.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Ewch i ddyddiad y cyfarfod yn eich calendr arfarnu, clicio ar enw’r meddyg a chwblhau’r templed gyda’r wybodaeth newydd. Bydd hyn yn cynhyrchu hysbysiad i’r meddyg a bydd y system yn cael ei diweddaru i adlewyrchu’r dyddiad cyfarfod newydd.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Ewch i’r dudalen ‘Arfarniadau’ a dod o hyd i’r meddyg yr ydych yn dymuno canslo’r dyddiad cyfarfod iddynt. Yn y golofn gyntaf ar y chwith fe welwch ddyddiad ac amser cyfarfod, i ganslo hyn, cliciwch ar y groes goch. Nodwch, drwy ganslo dyddiad cyfarfod:
- Ni fyddwch yn gallu cael mynediad i wybodaeth arfarnu meddyg mwyach
- Bydd unrhyw waith a gwblhawyd ar y crynodeb arfarnu yn cael ei golli
- Bydd y meddyg yn cael ei ryddhau o’r cyfnod cloi allan a byddant yn gallu ychwanegu neu olygu gwybodaeth arfarnu
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Os nad yw’r meddyg wedi cytuno ar unrhyw rai o’r dyddiadau a gynigiwyd, bydd MARS yn cymryd y dyddiad cynharaf o’r rhain ar gyfer pob swyddogaeth system (h.y. cloi allan). Fodd bynnag, byddem yn eich cynghori i geisio cysylltu â’r meddyg yn uniongyrchol i gadarnhau dyddiad y cyfarfod.
Os na allwch gytuno ar ddyddiad cyfarfod gyda’r sawl i’w arfarnu, efallai y byddwch yn dymuno gofyn iddynt ddewis Arfarnwr newydd.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Yn gyntaf, os bydd dyddiad cyfarfod wedi’i gofnodi ar MARS, mae angen i chi ganslo hwn. Ewch i ‘Arfarniadau’ a chlicio ar y groes goch wrth ddyddiad cyfarfod y meddyg. Ar ôl gwneud hyn, ewch i ‘Rheoli’ a chlicio ar y bocs ‘Aros am Ddyddiadau Cyfarfodydd’. Fe welwch groes goch yn y golofn ‘Gweithredu’ lle gallwch ddileu’r meddyg o’ch rhestr. Bydd y meddyg yn cael ei hysbysu a bydd angen iddynt ddewis Arfarnwr newydd.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Gallwch edrych ar wybodaeth arfarnu’r meddyg drwy glicio ar yr eicon ‘darn o bapur’ yn y golofn ‘Gwybodaeth ap’, gallwch hefyd lawrlwytho’r wybodaeth fel PDF gan ddefnyddio’r saeth os bydd angen/byddai’n well gennych.
Fodd bynnag, gall y wybodaeth newid hyd at 14 diwrnod cyn y cyfarfod ar gyfer meddygon teulu a 7 niwrnod ar gyfer pob arbenigedd arall. Os yw’r meddyg wedi ychwanegu gwybodaeth ategol i ategu eu cofnodion arfarnu, gallwch eu hagor a’u lawrlwytho o’r un ardal.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Mae meddyg yn gallu lanlwytho gwybodaeth ategol i ategu eu cofnodion arfarnu a’u hadlewyrchiadau. Gallant lanlwytho gwybodaeth ategol yn electronig neu ddatgan y byddant yn dod â gwybodaeth ategol ffisegol gyda hwy i’r cyfarfod arfarnu. Mae’r tabl isod yn dangos yr eiconau a fydd yn dangos pa fath o wybodaeth ategol y gellir ei lanlwytho.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Gallwch lawrlwytho gwybodaeth arfarnu meddyg gan ddefnyddio’r ‘saeth i lawr’ yn y golofn ‘Gwybodaeth ap’. Dylech sicrhau eich bod yn dilyn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a sicrhau eich bod yn ei waredu drwy eich gwastraff cyfrinachol lleol ar ôl gorffen gyda’r wybodaeth ar gyfer y cyfarfod arfarnu. Byddwch yn creu’r crynodeb mewn ardal ar wahân.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Os hoffech i’r meddyg gofnodi gwybodaeth arfarnu bellach, efallai y byddwch yn dymuno gohirio’r dyddiad cyfarfod er mwyn galluogi iddynt gasglu gwybodaeth bellach. Fel arall, gallwch gytuno i gadw’r un dyddiad cyfarfod ond caniatáu amser ychwanegol iddynt gasglu gwybodaeth bellach.
Gall canllawiau newid yn ôl amgylchiadau (h.y. COVID-19) a gallai gofynion amrywio.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Bydd y wybodaeth ar gael i chi 30 diwrnod cyn y dyddiad cyfarfod a gofnodwyd ar MARS. Bydd y meddyg wedi’i gloi allan rhag ychwanegu gwybodaeth ychwanegol neu olygu gwybodaeth bresennol 14 diwrnod cyn y cyfarfod ar gyfer meddygon teulu a 7 niwrnod cyn y cyfarfod ar gyfer pob arbenigedd arall.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Gallwch weld manylion y sawl i’w arfarnu, yn ogystal ag unrhyw arfarniadau blaenorol drwy fynd i ‘Arfarniadau’ a chlicio ar yr eicon person glas yn y golofn ‘Enw Cyntaf’. Gallwch weld cynnydd y meddyg at ailddilysiad, eu gweithgareddau proffesiynol a’u cynllun gwaith (os yw’n berthnasol).
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Mae manylion cyswllt y meddyg ar gael drwy glicio ar yr eicon person glas yng ngholofn ‘Enw Cyntaf’ y dudalen ‘Arfarniadau’. Darperir cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt (os yw’r meddyg wedi cofnodi un).
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Yn ystod y pandemig coronafeirws, mae’r ffordd y mae meddygon yn rhyngweithio â’i gilydd yn ogystal â chleifion wedi newid. Mae mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi golygu bod cyfarfodydd rhithiol wedi’u defnyddio fwy nac erioed o’r blaen. Oherwydd bod arfarniad yn cynnwys cyfarfod un i un yn draddodiadol, mae addasiadau wedi’u gwneud ar gyfer yr amgylchiadau newydd hyn. Mewn rhai achosion, efallai y bydd meddygon yn teimlo’n fwy cyfforddus yn cael eu harfarniad yn rhithiol er mwyn osgoi teithio a chyswllt diangen ag eraill. Ar ôl i chi ymrwymo i’r crynodeb arfarnu, bydd angen i chi ddynodi a oedd y cyfarfod yn un wyneb yn wyneb neu’n gyfarfod rhithiol, pan ofynnir i chi nodi hynny.
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2021
Pan fyddwch yn barod, gallwch ddechrau ychwanegu at y crynodeb arfarnu drwy ddewis yr eicon ‘papur’ yn y golofn ‘creu crynodeb’ o’r dudalen ‘Arfarnu’. Dylech weithredu pob tab yn yr adran creu crynodeb:
- Gwybodaeth arfarnu
- Cyfyngiadau
- Mewnwelediadau ac Adlewyrchiadau
- CDP
- Ailddilysu
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2021
Bydd y rhan fwyaf o’r crynodeb arfarnu yn cael ei greu yn y tab hwn, gallwch ddewis ‘ychwanegu’r holl wybodaeth’ mae’r meddyg wedi’i chofnodi neu gallwch ddewis rhai cofnodion yr hoffech ganolbwyntio arnynt. Ar ôl i chi ychwanegu’r cofnodion a gofnodwyd gan y meddyg, cewch gyfle i ychwanegu sylwadau’r arfarnwr drwy ddewis yr eicon ‘golygu’ pan fydd ar gael. Gallwch ddewis uno rhai cofnodion arfarnu ac mae gwybodaeth bellach am hyn ar gael isod.
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2021
Chi fel yr arfarnwr fydd yn gyfrifol am greu CDP yn seiliedig ar wybodaeth y meddyg. Gallwch wneud hyn drwy tab CDP yr adran creu crynodeb, ychwanegu ‘Ychwanegu Gweithgarwch Newydd’ a chwblhau’r wybodaeth ofynnol yn y bocs naid. Os yw’r meddyg wedi ychwanegu eitem ‘i ymgyrraedd ato yn y CDP’ a’ch bod yn cytuno y dylai hyn ffurfio rhan o’u CDP cytûn bydd hyn yn weladwy ar y tab CDP. Ar waelod y tab hwn, fe welwch ‘Gweithgareddau i ymgyrraedd atynt’ a gallwch ddewis y botwm gwyrdd ‘ychwanegu’r dewis’ yn y golofn dde. Os na fyddwch yn ychwanegu’r eitemau ‘i ymgyrraedd atynt yn y CDP’, ni fydd y rhain yn cael eu hychwanegu at CDP cytûn y meddyg.
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2021
Dylai’r cyd-destun proffesiynol fod yn drosolwg byr o ymarfer y meddyg, gan gynnwys pob rôl y maent yn ymgymryd â hwy.
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2021
Mae newidiadau diweddar i ganllawiau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) yn golygu y dylai meddyg gasglu adborth gan gleifion a chydweithwyr ac adlewyrchu ar hyn yn flynyddol. Fodd bynnag, mae angen i’r meddyg gwblhau ymarfer adborth ffurfiol o leiaf unwaith ym mhob cylch ailddilysu.
Mae Orbit360 am ddim ar y pwynt defnyddio i bob meddyg sydd â chysylltiad rhagnodedig â chorff GIG Cymru. Ar ôl i’r meddyg gwblhau adroddiad ffurfiol, bydd angen iddynt adlewyrchu ar yr adroddiad yn yr arfarniad er mwyn i chi ei ddilysu ar gyfer ailddilysiad. Mae’r CMC hefyd yn darparu canllawiau pellach ar adborth gan gleifion a chydweithwyr ar gyfer ailddilysiad, ac mae cefnogaeth bellach ar Orbit360 ar gael ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Orbit360.
Ddiweddaru ddiwethaf
Er mwyn cyflawni gofynion ailddilysu, mae’r CMC yn ei gwneud yn ofynnol i bob meddyg gyflwyno gwybodaeth ategol sy’n cwmpasu pob agwedd o’u dyletswyddau proffesiynol. Bydd hyn yn golygu cyflwyno gwybodaeth mewn arfarniad blynyddol. Mae meddygon yn aml yn ymgymryd â rolau lluosog – naill ai ar draws arbenigeddau neu ym maes rheoli, addysg ac yn y blaen. Bydd pob un o’r rolau hyn wedi’u cwmpasu gan ofynion ailddilysu a bydd angen eu cynrychioli mewn trafodaeth arfarnu.
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2021
Cyn i chi gyflwyno crynodeb arfarnu, mae’n rhaid cyflawni’r amodau canlynol:
- Mae’r meddyg wedi cwblhau eu datganiadau uniondeb blynyddol
- Mae o leiaf 1 cofnod yn y crynodeb arfarnu
- Mae’r Dudalen Cynnydd Ailddilysu wedi’i chwblhau gennych chi
- Rydych wedi dynodi bod y cyfarfod yn gyflawn a chadarnhau’r dyddiad cyfarfod
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2021
Pan fyddwch ar y tab ‘Gwybodaeth Arfarnu’ yr adran creu crynodeb, fe welwch fotwm glas hefyd yn agos at y brig, ‘Creu Gwybodaeth Newydd’. Os oes cofnodion sy’n berthnasol i’r drafodaeth arfarnu y credwch sydd angen cofnod, gallwch ddefnyddio’r botwm hwn. Fodd bynnag, mae hyn yn rhoi cyfrifoldeb arnoch chi fel yr arfarnwr i ysgrifennu’r wybodaeth hon.
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2021
Os ydych yn dymuno uno cofnodion arfarnu, gallwch wneud hynny o’r adran creu crynodeb, yna’r tab gwybodaeth arfarnu. Dewiswch ‘Ychwanegu Gwybodaeth Meddyg’ a defnyddio’r blychau ticio ar yr ochr dde i ddewis y cofnodion yr hoffech eu huno. Yna dylech glicio ar y botwm ‘Ychwanegu/Uno’r Dewis’ ac unwaith eto defnyddio’r blychau ticio ar yr ochr dde cyn pwyso ‘Ychwanegu’r Dewis’. Yna bydd angen i chi ddewis y categori a’r porth sy’n alinio â’r cofnod ac ychwanegu eich sylwadau.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Os bydd cofnodion niferus o natur debyg, gellir trafod y rhain gyda’i gilydd yn y cyfarfod arfarnu a gallwch roi sylwadau ar y cofnodion mewn un lle heb orfod gwneud sylwadau ar wahân ar gyfer pob cofnod.
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2021
Os yw’r datganiadau wedi’u cloi ac mae angen eu diwygio, ewch i’r tab ‘Trosolwg’ yn yr adran creu crynodeb. Cliciwch y botwm ‘Datgloi’ yn yr adran ‘Uniondeb a Datganiadau’. Bydd y datganiadau yn parhau heb eu cloi nes y bydd y meddyg wedi diwygio’r rhain, ni allwch ymrwymo’r crynodeb nes y byddant wedi ail-gwblhau’r rhain.
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2021
Cyfrifoldeb y meddyg yw sicrhau eu bod yn cynnwys gwybodaeth ddigonol i gefnogi trafodaeth arfarnu ystyrlon, rydym yn argymell eich bod yn adolygu gwybodaeth y meddyg cyn dechrau’r cyfnod cloi allan er mwyn i chi allu cymell meddyg i gofnodi mwy os bydd angen. Unwaith y bydd y meddyg yn y cyfnod cloi allan, os byddwch yn penderfynu nad oes gwybodaeth ddigonol, rydym yn argymell gohirio’r cyfarfod arfarnu i ddyddiad diweddarach, gydag unrhyw ddyddiadau ailddilysu yn y dyfodol yn cael eu hystyried. Os byddwch yn bwrw ymlaen â’r dyddiad gwreiddiol, ond eich bod yn caniatáu amser ychwanegol i’r meddyg lunio’r wybodaeth, gallwch gwblhau’r broses isod:
- Golygu’r dyddiad cyfarfod i ddyddiad sy’n fwy na 7/14 diwrnod yn y dyfodol ond sy’n llai na 29 diwrnod
- Bydd hyn yn tynnu’r meddyg o’r cyfnod cloi allan er mwyn gallu cofnodi gwybodaeth ychwanegol
- Yna dylech olygu’r dyddiad cyfarfod i’r dyddiad cywir
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2021
Gellir defnyddio’r sylwadau ar y dudalen cynnydd ailddilysu i ddarparu cyd-destun neu gyngor pellach i’r meddyg. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dymuno cynghori’r meddyg i gwblhau ymarfer adborth cleifion a chydweithwyr cyn eu harfarniad nesaf er mwyn cyflawni’r gofynion ailddilysu. Bydd y sylwadau’n weladwy i’r meddyg a thimau’r bwrdd iechyd nes y byddant yn cwblhau eu harfarniad nesaf.
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2021
Mae canllawiau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) ar arfarnu ac ailddilysu yn darparu canllawiau manwl ar beth y dylai’r meddyg ei gwblhau er mwyn cael ei ailddilysu. Fodd bynnag, os oes gennych ymholiadau pellach ynghylch a yw’r wybodaeth yn cyflawni’r trothwy ai peidio, dylem argymell cysylltu â’ch Cydgysylltydd Arfarnu lleol neu’r Arweinydd Arfarnu. Fel arall, gallwch gysylltu â’ch bwrdd iechyd/Corff Dynodedig i gael cyngor pellach.
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2021
Bydd angen i’r meddyg gysylltu â’r tîm ailddilysu yn eu bwrdd iechyd/Corff Dynodedig i drafod y camau nesaf.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Bydd angen i chi gyflwyno’r crynodeb arfarnu; bydd hyn yn galluogi’r meddyg i’w ddarllen a rhoi gwybod i chi am unrhyw ymholiadau. Dylech fynd i’r dudalen ‘Arfarniadau’ a dewis yr arfarniad yr hoffech ei gyflwyno. Ticiwch y bocs ‘Cyfarfod wedi’i Gwblhau’. Gwnewch yn siŵr mai’r meddyg cywir yw hwn a’ch bod wedi cofnodi’r dyddiad cywir oherwydd ni ellir gwrthdroi’r broses hon. Yna gallwch glicio ar y bocs ‘Cyflwyno Crynodeb’. Os bydd unrhyw gamau gweithredu heb eu cwblhau fel y nodwyd uchod, cewch eich cymell i wneud hynny cyn y gellir cyflwyno’r crynodeb.
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2021
Os bydd crynodeb yn cael ei wrthod, bydd angen i’r meddyg ddarparu manylion byr. Bydd y manylion hyn yn weladwy drwy glicio ar y swigen siarad ar y dudalen Arfarniadau. Os byddwch yn cytuno, gallwch ddiwygio’r crynodeb a’i gyflwyno eto, neu efallai y byddwch yn dymuno trafod hyn ymhellach gyda’r meddyg. Os na allwch chi a’r meddyg gytuno ar y crynodeb arfarnu, dylech gysylltu â’ch Cydgysylltydd Arfarnu lleol neu’r Arweinydd Arfarnu yn yr achos cyntaf. Os bydd angen cymorth pellach arnoch, dylech gysylltu â’ch bwrdd iechyd/Corff Dynodedig am gyngor pellach.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021
Gallwch weld adborth dienw drwy fynd i’r dudalen ‘Dadansoddeg Adborth’. Dewiswch ‘Arolwg Adborth Arfarniad Meddygol – Byw’ o’r ddewislen arolygon cyhoeddedig, dewiswch eich enw yn y ddewislen Arfarnwyr a hidlo’r cyfnod rydych yn dymuno ei weld yn y ddewislen ‘O’ ac ‘I’. I helpu i ddiogelu anhysbysrwydd yr ymatebion, mae adborth ar gael mewn newidynnau o 3 (h.y. 3,6,9 ac yn y blaen).
Ddiweddaru ddiwethaf 07/10/2921
Os hoffech fod yn arfarnwr, cysylltwch â thîm arfarnu meddygon teulu Uned Cefnogi Ailddilysiad (RSU) os ydych yn gweithio mewn Practis Cyffredinol.
Os ydych yn gweithio ym maes gofal eilaidd, mae arfarnwyr yn cael eu recriwtio’n lleol gan bob bwrdd iechyd/Corff Dynodedig, felly dylech gysylltu â hwy i drafod hyn. Byddant yn ein hysbysu pan fyddwn yn gallu dyrannu rôl arfarnwr i chi ar MARS. Ar ôl i chi gwblhau’r gofynion angenrheidiol, bydd yr RSU yn ychwanegu’r ‘rôl arfarnwr’ i’ch cyfrif MARS.
Ddiweddaru ddiwethaf 06/10/2021